Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Safle Eisteddfod 2014Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Wythnos ar ôl y Brifwyl, does dim syndod fod Eisteddfod Sir Gâr yn Llanelli yn derbyn sylw eang yn y wasg a'r blogiau.

Aeth Glyn Adda, dolen allanol ddim yno, ond mae ganddo nifer o gwestiynau ar ei flog: Oedd hi'n wahanol eleni? Oedd hi'n fodern? Oedd hi'n ddeinamig? A oedd yno gystadlaethau apelgar, cyfoes a blaengar?

Hynny yw, oedd dylanwad y Dwsin Doeth, sef y panel a benodwyd i edrych ar ddyfodol yr ŵyl, i'w weld ar bob llaw?

Mewn cyfweliad yn Golwg, mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, i'w weld yn ddigon hapus beth bynnag.

Mae 'na lot o bethau canmoliaethus wedi digwydd, meddai, gyda'r hanner can mil o arian ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu gwedd y Maes wedi talu ar ei ganfed.

Maes yr Eisteddfod

'Chwa o awyr iach'

Yn ôl Cris Dafis yn Golwg, chwa o awyr iach oedd yr Eisteddfod hon.

Am y tro cyntaf ers nifer fawr iawn o flynyddoedd, fe drodd ei fyd bron yn gyfan gwbl Gymraeg ei iaith am wythnos gyfan, ac i Cris, bywiogrwydd ac awyrgylch y maes oedd gorchest fawr yr Eisteddfod hapus hon.

Mae hefyd yn eithaf siŵr fod natur hynod yr ardal wedi gadael ei hôl yn gryf ar y maes.

Mae 'na rywbeth diymhongar iawn a ffeind iawn am Gymreictod ardal Llanelli meddai - dim ffuantrwydd nag elfen 'ylwch-arna-i' amdano. Does dim byd crachaidd am y Gymraeg yn Llanelli; ac ie, un o'r ardal yw Cris ei hun yn wreiddiol.

Maes Carafannau yr Eisteddfod

Mae'n amlwg fod perthynas pobl â'r Eisteddfod yn newid dros amser. I Rhodri ap Dyfrig, dolen allanol, sy'n sgwennu ar wefan Ffrwti, roedd y maes carafannau yn arfer bod yn symbol o ryw fath o eisteddfodwyr nad oedd fyth eisiau bod.

Er ein bod ni'n dod i'r steddfod yn selog bob blwyddyn ers i mi gael fy ngeni, meddai, hyd yn oed yn fis oed mewn pabell, arhosais i erioed ar y Maes Carafannau.

Ond eleni, cafodd Rhodri ei hun mewn carafán, ar yr union faes hwnnw - yn mwynhau ei hun.

Na, allai ddim osgoi'r ffaith rhagor, meddai. Dwi wedi ildio. Wyf garafaniwr. Ac rwyf am ei fwynhau.

'Ymhlith y goreuon'

A mwynhau wnaeth Miriam Elin Jones hefyd, gan gloriannu'r ŵyl ar dudalennau Golwg.

Mae'n dal yn anodd credu pa mor amrywiol oedd y digwyddiadau ar y maes, meddai.

Mae'n bur debyg y bydd profiad rhywun arall o'r Eisteddfod yn wahanol iawn i fy mhrofiad i.

Ac er gwaetha'r bysys wennol anwadal, y bwyd drud a'r toiledau amhleserus, mae'n gobeithio nad hi yw'r unig un sy'n meddwl fod yr Eisteddfod eleni ymhlith y goreuon.

Maes yr Eisteddfod

'Amgueddfa Eisteddfodol?'

Er gwaetha'r holl sôn am 'waddol' Eisteddfodol bob blwyddyn, yr hyn sy'n poeni Ifan Morgan Jones yn ei flog, dolen allanol yw bod ein prifwyl yn parhau traddodiad y Cymry o symud ymlaen drwy hanes heb adael blewyn o dystiolaeth ar ein hol.

O fewn tri mis i ddiwedd yr Eisteddfod yn Llanelli, dim ond ambell i lain felen o wair fydd yn weddill.

Mae hyd yn oed y Meini Hirion a arferai cael eu gadael ar ôl yn rhai plastig y mae modd eu llwytho ar gefn tryc, erbyn hyn. Caiff popeth arall ei wasgaru i'r pedwar gwynt, i bwy a ŵyr ble.

Hoffai Ifan weld Amgueddfa Eisteddfodol yn cael ei sefydlu rhywle yng Nghymru.

Fe allai addysgu pobl am hanes yr Eisteddfod, a chynnwys creiriau hanesyddol o'r ŵyl a fyddai fel arall yn cael eu hesgeuluso a'u colli.

Gobaith Ifan yw na fydd haneswyr y dyfodol yn wynebu'r un rhwystredigaeth ag y mae ein haneswyr heddiw wrth bori dros jig-so tameidiog ein treftadaeth - wedi i'n lluniau Instagram a negeseuon Twitter ysmala ddiflannu y tu hwnt i gof.

Mae adolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch pob bore Gwener.