Pobl Môn yn pledleisio mewn isetholiad
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi fore Gwener
Ddydd Iau mae dinasyddion Môn yn penderfynu pwy fydd eu haelod cynulliad nesaf.
Mae'r gorsafoedd pleidleisio'n agored rhwng 7am a 10pm, ac mae disgwyl y canlyniad yn ystod oriau man bore Gwener.
Chwech sy'n ymgeisio am y sedd yn yr isetholiad, a gafodd ei alw yn dilyn penderfyniad Ieuan Wyn Jones i ildio'r awenau er mwyn rhedeg Parc Gwyddoniaeth Menai.
Hwn yw'r isetholiad cynulliad cyntaf i gael ei gynnal ers un Blaenau Gwent yn 2006.