Agor cwest i farwolaeth cerddwr ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Cafodd timau achub a hofrenydd eu galw wedi i Jarred Maillet, 21, gael ei ddarganfod
Cyhoeddwyd mai myfyriwr 21 oed o America fu farw wrth gerdded ar Yr Wyddfa ddydd Sadwrn.
Yng Nghaernarfon cafodd cwest ei agor a'i ohirio i farwolaeth Jarred Paul Maillet o Maine ac a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Manceinion.
Roedd cerddwyr wedi dod o hyd i Mr Maillet yn gorwedd gerllaw llwybr 2,500 o droedfeddi i fyny'r mynydd.
Mae'n ymddangos ei fod wedi disgyn.
Roedd Timau Achub Mynydd Llanberis ac Aberglaslyn wedi'u galw.
Cafodd Mr Maillet ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gan hofrennydd Sea King Awyrlu'r Fali ond roedd wedi marw cyn cyrraedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2013