Apêl wedi damwain farwol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion wedi i ddyn 26 oed farw ar ôl damwain gyda thacsi ym Merthyr Tudful.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 10.10pm yng nghanol y dref nos Sadwrn pan fu'r dyn mewn gwrthdrawiad â thacsi Vauxhall Astra du.
Bu farw'r dyn yn ddiweddarach yn yr ysbyty.
Yn ôl pobol leol, ei enw yw Lee Foley.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynghylch symudiadau'r dyn oedd yng nghwmni menyw, neu symudiadau'r tacsi, cyn y digwyddiad ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.